Swydd: Cyfarwyddwr/wraig Cyfathrebu
08-Ion-2009
Cyfarwyddwr/wraig Cyfathrebu
Eleni bydd y trosglwyddiad i ddigidol yn cychwyn yng Nghymru a bydd nifer o newidiadau arwyddocaol eraill yn effeithio ar S4C. Bydd gan y Cyfarwyddwr/wraig Cyfathrebu rôl ganolog yn llywio S4C drwy’r cyfnod hwn gan sicrhau fod ein cynlluniau cyfathrebu yn briodol ac yn effeithiol. Rydym yn gwahodd ceisiadau gan unigolion profiadol i arwain y gwaith cyfathrebu gyda’r gynulleidfa, rhanddeiliaid, y wasg a chyfryngau eraill.
Dylai ymgeiswyr fod â’r gallu i weithredu yn strategol ac yn meddu ar ddealltwriaeth lawn o’r trosglwyddiad i ddigidol, ei effaith ar S4C a’r gynulleidfa. Dylai ymgeiswyr fod yn meddu ar gysylltiadau eang ac yn gyfarwydd â chreu a gweithredu cynlluniau cyfathrebu mewnol. Rhaid wrth sgiliau llefaru ac ysgrifennu o’r radd flaenaf yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd y Cyfarwyddwr Cyfathrebu yn aelod o’r Bwrdd Cyfarwyddwyr ac yn atebol i’r Prif Weithredwr.
Bydd amodau’r swydd i’w trafod.
Am fanylion pellach a ffurflen gais cysylltwch â Kay Walters, Pennaeth Adnoddau Dynol, drwy e-bostio kay.walters@s4c.co.uk neu ffonio 029 2074 1300.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 22 Ionawr 2009.
Gweithredir Polisi Cyfle Cyfartal

