Neidio at y cynnwys

S4C

Cwmnïau cynhyrchu gogledd Cymru - cyfarfod cydlynu materion technegol S4C

19-Ion-2009

Cwmnïau cynhyrchu gogledd Cymru - cyfarfod cydlynu materion technegol S4C

Hoffai Arshad Rasul, Cyfarwyddwr Darlledu a Dosbarthu S4C, wahodd cynrychiolydd o’ch cwmni i gyfarfod cydlynu materion technegol a chynhyrchu i’w gynnal yn Galeri, Caernarfon rhwng 11:00 a 13:00 dydd Gwener 30 Ionawr 2009, gyda chyfle i gael sgwrs anffurfiol gyda’r tîm a brechdannau a lluniaeth ysgafn.

Bydd yn sesiwn llawn gwybodaeth a, gobeithio, yn un pleserus a gobeithiwn drin a thrafod y canlynol:

1. Cyflwyniad
2. Manylder Uwch – cyfeiriad S4C yn y dyfodol
3. Safonau Manylder Uwch
4. Gofynion cyfleu MU S4C
5. Epilepsy ffoto sensitif (PSE) – cyfarpar Harding a HD Gordon
6. Cryfder sain – mesur a chydymffurfiaeth
7. Jen Pappas
• Canllawiau Technegol
• Canllawiau Cydnabyddiaethau Cloi
8. Emlyn Penny Jones
• Cyfleu
• Gwasanaethau Mynediad
• Cystadlaethau mewn Rhaglenni

RSVP erbyn 12:00 hanner dydd, Mawrth 27 Ionawr 2009 i angharad.williams@s4c.co.uk neu 02920741200

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales