TRI CHYNNIG LLWYDDIANNUS I GYMRO!

21-Ebr-2004

Mae ffilm epig Marc Evans am y traddodiad barddol Cymreig, sy’n cynnwys perfformiadau trawiadol gan Ioan Gruffudd, Siân Phillips, Rhys Ifans a llu o actorion ac artistiaid eraill, wedi cipio’r brif wobr yn yr Wyl Ffilm a Theledu Celtaidd.

Enillodd Dal: Yma/Nawr, a gynhyrchwyd gan Fiction Factory ar gyfer S4C, wobr Ysbryd yr Wyl mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd yn Dundee dros y penwythnos.

Clodforwyd y ffilm gan y beirniaid am “gyfuno delweddau gyda geiriau mewn modd trawiadol” ac o “gymhathu’r ymdeimlad o dir a phobl mewn cymaint o wahanol ffyrdd.”

Dyma’r drydedd wobr fawr y mae Marc Evans wedi’i hennill dros y ddau ddegawd diwethaf yn yr Wyl. Fe enillodd wobrau yn y gorffennol am y ffilm fer Johnny Be Good a ffilm ffantasi S4C Ymadawiad Arthur.

Fe enillodd S4C ddwy wobr arall yn yr wyl. Fe wobrwywyd y gyfres animeiddio ddychanol CNEX, a gynhyrchwyd gan Gwmni Da ac a animeiddiwyd gan Griff Films a Cinetig, yn y categori Adloniant Gorau ac fe enillodd Cinetig wobr arall hefyd yn y categori Animeiddio Gorau am y ffilm fer Lloriau.