Neidio at y cynnwys

S4C

Diweddariad ynglŷn â chynigion ar gyfer Y Daith

28-Ion-2009

Derbyniwyd nifer o syniadau cyffrous yn dilyn yr hysbyseb ar y wefan cynhyrchu. Ond er mwyn sicrhau amrywiaeth o fewn y gyfres rydym yn gwahodd syniadau pellach. Rydym yn annog syniadau fydd yn canolbwyntio ar daith a phrofiad crefyddol sydd wedi ei lleoli yng Nghymru ac yn ymwneud a’r traddodiad anghydffurfiol.
Rydym yn gwahodd cynhyrchwyr i anfon syniadau am raglenni drwy’r wefan cynhyrchu. Noder nad tendr yw’r broses hon ac fe fydd y syniadau yn cael eu hystyried fel rhan o’r drefn gomisiynu arferol. Bydd y gyfres yn dilyn patrwm O’r Galon ac Wynebau Newydd. Rydym yn rhagweld creu cyfres gyfansawdd o hyd at chwe rhaglen hanner awr.

Bydd y cynigion yn cael eu trafod yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar Fawrth yr ail 2009. Felly dylai pob cynnig gyrraedd gwefan S4C erbyn 12:00 canol dydd, Gwener Chwefror 27ain 2009. Mae’n fwriad cynhyrchu a darlledu'r gyfres yn ystod 2009. Fe fydd y gyfres yn cynnwys crefyddau gwahanol ac mae’n rhaid sicrhau rhaglenni cyfoes, gyda straeon gafaelgar a siaradwyr cryf.

Bydd cost y rhaglenni yn unol â’n tariffau ac yn ddibynnol ar y cynnwys golygyddol a gofynnwn i chi nodi amcan bris wrth gyflwyno’r cynnig drwy’r wefan.

Byddwn yn hysbysu cwmnïau fod gennym ddiddordeb mewn trafod y syniadau ymhellach erbyn dydd Llun Mawrth 16 2009.

Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o’r cynigion a ddaw i law . Nid oes disgwyl i ymgeiswyr blaenorol ail gyflwyno syniadau sydd eisoes wedi eu cyflwyno drwy’r wefan.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales