Cais ar y cyd gan gwmnïau Rondo a Telesgôp yn ennill tendr digwyddiadau S4C
20-Chwe-2009
Yn dilyn proses dendro agored, mae S4C yn falch o gyhoeddi fod cais ar y cyd gan gwmnïau Rondo a Telesgôp wedi ennill cytundeb i gyflenwi digwyddiadau newydd i amserlen S4C.
Hyd y cytundeb newydd hwn yw dwy flynedd, ac mae’n cynnwys digwyddiadau megis Gŵyl Pontardawe, Sioe Sir Benfro a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.
Mae’r cytundeb yn adlewyrchu safle S4C fel cartref digwyddiadau byw o ddiddordeb Cymreig ac mae’n ychwanegol i’r sylw helaeth a roddir gan y Sianel i’r Eisteddfodau, Sioe Frenhinol Cymru a digwyddiadau chwaraeon o bwys.
