AIL-STRWYTHURO S4C Rhyngwladol
21-Ebr-2004
Mae Huw Walters, Cyfarwyddwr Busnes Rhyngwladol newydd S4C Rhyngwladol, wedi ail-strwythuro tîm gwerthiant a chyd-gynhyrchu'r dosbarthwr er mwyn cryfhau genres rhaglenni penodol a chanolbwyntio ar ddatblygu busnes newydd.
Mae Anna-Lisa Jenaer yn ymgymryd â rôl newydd Pennaeth Brand, gyda chyfrifoldeb am ddatblygu, ariannu a marchnata prosiectau animeiddio S4C Rhyngwladol.
Ar ôl iddi wneud y gwaith hwn gyda llwyddiannau mawr fel Sam Tân a Sali Mali, cyflwynodd Anna-Lisa ddau beilot newydd ym MIP TV yn Cannes, sef Holly's Helpine (wedi'i ddatblygu gan Siriol) a Mr Moon (wedi'i ddatblygu gan Skaramoosh).
Bydd y Swyddog Cyd-gynhyrchu, Gethin Morgan, bellach yn canolbwyntio'n llwyr ar raglenni ffeithiol, gan adeiladu ar lwyddiant S4C Rhyngwladol yn y maes. Lansiwyd dwy gyfres ddogfen nodedig ym MIP, sef Mapwyr a'r Normaniaid.
Bydd Alexandra Leadley yn gyfrifol am werthiannau ar draws y ddwy genre, tra bydd Rhianydd Darwin, y cyn-Bennaeth Gwerthiant, yn ymgymryd â swydd newydd Pennaeth Datblygu Busnes.
Bydd Rhianydd yn gweithio'n agos gyda'r tîm rhaglenni yn S4C er mwyn sicrhau fod cyfleoedd masnachol yn cael eu hecsploitio ar draws pob genre arall. Yn benodol, bydd Rhianydd yn ceisio datblygu gwerthiannau a chyd-gynyrchiadau mewn meysydd fel cerddoriaeth ac adloniant.
Yn ei swydd newydd mae Huw Walters yn cymryd gorolwg dros holl agweddau gwaith S4C Rhyngwladol, gan greu un busnes cyd-gynhyrchu a gwerthiant integreiddiedig. Eglura Huw, "Mae ein strwythr adrannol newydd yn cydnabod mai'r un busnes, yn y bôn, yw cyd-ariannu a gwerthiant rhaglenni. Mae agwedd integreiddiedig tuag at ddatblygu, ariannu, marchnata a gwerthu ein rhaglenni yn gwneud llawer iawn o synnwyr.
"Bydd y strwythr newydd yn creu mwy o enillion, gobeithio, i'w buddsoddi yng nghyllideb rhaglenni S4C a mwy o fusnes i gyflenwyr rhaglenni S4C Rhyngwladol, sef y bobl yr ydym yn ddibynnol arnynt yn greadigol."

