Cronfa Sgiliau Cymru, Cyrsiau Byrion a Digwyddiad BECTU Cymru
05-Maw-2009
Cronfa Sgiliau Cymru
Gwasanaeth ar gyfer gweithwyr llawrydd a staff llawn amser yng Nghymru er mwyn annog datblygiad proffesiynol yn niwydiannau’r cyfryngau creadigol.
Trwy’r gronfa, gall gweithwyr llawrydd dderbyn cefnogaeth ariannol o hyd at 80% tuag at hyfforddiant arbenigol, a gall staff llawn amser hawlio hyd at 50%. Gall hefyd gynnig 50% tuag at gostau teithio!*
*Yn amodol ar Ganllawiau Cronfa Sgiliau Cymru
Cyrsiau Byrion ar y gweill:
Rheoli Cynhyrchiad Ffeithiol
20 Mai, 2009, Caerdydd
Cwrs Cymorth Cyntaf (mewn cydweithrediad â St John Cymru Wales)
15 – 18 Mehefin 2009, Caernarfon
Ffair Cyfryngau Caerdydd Bectu Cymru
Bydd gan Cyfle hefyd stondin yn Ffair Cyfryngau Caerdydd BECTU Cymru 2009 yn yr Atrium, Caerdydd, ar Ddydd Sadwrn, 7 Mawrth. Dewch draw i’r stondin am ragor o wybodaeth a chyngor!
Cysylltwch â swyddfa Cyfle yng Nghaernarfon am ragor o wybodaeth ynglŷn â Cronfa Sgiliau Cymru a chyrsiau byrion ar 01286 671 000 neu e-bostiwch shan@cyfle.co.uk
