Y Llewod
07-Mai-2009
Mae cwmnïau Sunset + Vine Cymru a Sports Media Services wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i gynhyrchu darllediadau S4C o Daith Y Llewod i Dde Affrica, sy’n dechrau ym mis Mai ac sy’n parhau am bum wythnos.
Bydd darllediadau S4C yn cynnwys uchafbwyntiau o’r tair gêm prawf yn ystod y daith, gyda’r gyntaf ar 20 Mehefin (Durban), yr ail ar 27 Mehefin (Pretoria) a’r olaf ar 4 Gorffennaf (Johannesburg). Bydd uchafbwyntiau’r saith gêm arall hefyd ar gael ar S4C.
