Neidio at y cynnwys

S4C

Cwestiwn ac ateb - Tendr Datblygu Ffuglen

18-Meh-2009

Cwestiwn:
A oes gan S4C nifer o syniadau neu gyfnod penodol mewn golwg ar gyfer y Tendr Datblygu Ffuglen?

Ateb:
Bydd cyfnod datblygu unrhyw syniadau i'w drafod gydag enillydd/wyr y tendr, ac yn ddibynnol ar nifer a hyd y sgriptiau, argaeledd y dalent ynghlwm â'r syniad sydd yn cael ei ddatblygu.

Cwestiwn:
Ydi S4C yn cynnig adnoddau eraill (e.e. ymchwil cynulleidfa neu amser swyddogion S4C) tu hwnt i’r gyllideb sydd ar gael.

Ateb:
Bydd y tîm comisiynu ynghlwm â’r gwaith o ddiffinio a chefnogi datblygiad y syniadau. Bydd unrhyw geisiadau am ymchwil yn cael eu hystyried yn ôl anghenion S4C a’r syniad sydd yn cael ei ddatblygu.

Cwestiwn:
A fydd y syniadau i’w datblygu yn gorfod dilyn camau Proses Gomisiynu S4C (h.y. yn cael eu cynnig drwy’r system electronig)?

Ateb:
Bydd y syniadau a ddatblygir dan y cytundeb hwn yn cael eu comisiynu yn unol â Phroses Gomisiynu S4C - gweler y manylion ar Safle Cynhyrchu S4C.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales