Neidio at y cynnwys

S4C

Seminar Teledu Manylder Uwch mewn cydweithrediad â S4C

22-Medi-2009

Deall Teledu Manylder Uwch o’r broses Gynhyrchu i’r Darlledu
14 Hydref 2009, Canolfan yr Urdd, Caerdydd
Tiwtoriaid: Peter Wilson (Trosolwg a Systemau) a
John Watkinson (Sylfeini, Systemau Cywasgu Sain a Fideo, Sain amgylcheddol)
Mae’r seminar hwn wedi’i gynllunio’n arbennig er mwyn darparu staff technegol yn y diwydiant gyda dealltwriaeth bellach o Deledu Manylder Uwch.
Ydych chi wedi gweithio gyda Ffilm a Chamera Fideo SD ers cyn cof ond yn sylwi bod darlledwyr erbyn hyn yn symud i Deledu Manylder Uwch? Ydych chi’n ystyried prynu Camerâu MD ond bod darlledwyr yn gwrthod derbyn pob fformat yn enwedig ffilm 16mm? PAM?
Mae’r seminar yma yn trafod y newid i fformatau Manylder Uwch.

Pynciau trafod:
• Y System Manylder Uwch;
• Manylion Manylder Uwch. 1080i a 1080p;
• Cymharu caffaeliadau diweddar a thechnoleg ôl-gynhyrchu, gan gynnwys y prif ‘codecs compression’;
• Mpeg 4 Vs Mpeg 2;
• Pam fod darlledwyr ddim yn ffafrio ffilm 16mm;
• Golygu a Chywasgiad;
• Sain Amgylcheddol – gan gynnwys defnydd ymarferol o ‘Dolby E’;
• Cyfraniad a Throsglwyddiad Lloeren.


Pris: £150* + TAW
Cysylltwch â shan@cyfle.co.uk neu 01286 671 000
*Gweithiwr llawrydd? Cysylltwch â Wayne Full yn Skillset Cymru i weld os ydych chi’n gymwys i dderbyn gostyngiad tuag at gostau’r cyrsiau hyfforddi hyn. waynef@skillset.org neu 029 20 452 828.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales