Neidio at y cynnwys

S4C

Briff golygyddol a Busnes – Camau newydd

23-Hyd-2009

Wedi trafod gyda chroesdoriad o gynhyrchwyr yn cynrychioli TAC rydym wedi cytuno i rannu’r broses o lenwi’r brîff golygyddol a busnes i ddau gam.

Cam 1
Cyflwyno a chytuno ar ran gyntaf y Brîff. Mi fydd y rhan yma yn cynnwys yr elfennau golygyddol, amcan bris ac amserlen fras ar ffurf dogfen Word. Mi fydd hefyd yn cynnwys y dyddiad y bydd disgwyl i’r briff llawn gael ei gyflwyno. Ar ôl i ran gyntaf y briff gael ei gytuno a’i arwyddo mi fydd S4C yn rhoi llythyr o fwriad i’r cynhyrchydd.

Cam 2
Bydd y brîff llawn ar yr un ffurf â’r briff presennol ac i’w gyflwyno gan y cynhyrchydd drwy’r system gyfrifiadurol fel arfer (comex). Bydd angen cynnwys yr elfennau sydd yn ffurfio Rhan 1 ond bydd modd torri a gludo’r wybodaeth.

Bydd y brîff yn ffurfio rhan o gytundeb y rhaglen fel yn awr a dylid cofio na fydd comisiwn llawn tan y bydd y cytundeb comisiynu wedi ei arwyddo.


Hyderir y bydd y drefn newydd yn fanteisiol i’r cynhyrchwyr ac i S4C er mwyn medru cynllunio’n fwy effeithiol. Y nod yw medru cynnig llythyr o fwriad i’r cynhyrchwyr o leiaf 8 wythnos cyn dechrau cynhyrchu os yw S4C yn dangos diddordeb mewn comisiynu syniad. I hwyluso hyn mi fyddwn yn nodi dyddiad y bydd disgwyl cyflwyno rhan gyntaf y brîff, sef fel arfer 10 diwrnod gwaith o ddyddiad y gwahoddiad.

Mewn amgylchiadau eithriadol lle y mae amser yn dynn oherwydd natur y cynhyrchiad mi fydd modd symud yn syth i wahodd y brîff llawn.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales