O’r Galon - Gwahoddiad i gyflwyno syniadau
28-Hyd-2009
Gwahoddiad i gyflwyno syniadau drwy’r wefan gynhyrchu
28 Hydref 2009
Bydd cyfres O’r Galon yn ôl ar S4C yn gynnar yn 2010. Mae nifer o raglenni ar waith ond rydym yn gwahodd cynhyrchwyr i anfon rhagor o syniadau am raglenni drwy’r wefan cynhyrchu. Dylai’r rhain fod yn syniadau dogfen hanner awr na chynhigiwyd i ni o’r blaen. Noder nad tendr mo’r broses hon ac fe fydd y syniadau yn cael eu hystyried fel rhan o’r drefn gomisiynu arferol, dan y penawd Ffeithiol. Bwriadwn gomisiynu dwy raglen drwy’r broses hon.
Dylai pob cynnig gyrraedd gwefan S4C erbyn 12:00 canol dydd, Mawrth 10 Tachwedd 2009. O symud i gomisiwn gydag unrhyw raglen newydd bydd rhaid ei chyfleu cyn diwedd mis Ionawr 2010.
Bydd cost y rhaglenni yn unol â thariff Ff2, sef rhwng £40,000 a £80,000 yr awr. Mae ochr isaf y tariff yn adlewyrchu cost sylfaenol y rhaglen gyda thariff uwch o fewn yr ystod yn adlewyrchu unrhyw ofynion arbennig o fewn y rhaglen e.e. cost talent, lleoliad ac yn y blaen. Gofynnir i chi nodi amcan bris fel rhan o’ch cynnig gan nodi yn fras, os yw’r pris yn uwch nag ystod isaf y tariff, pa elfennau sy’n cyfrannu at hyn.
Byddwn yn hysbysu cwmnïau fod gennym ddiddordeb mewn trafod y syniadau ymhellach cyn dydd Mawrth 17 Tachwedd 2009.
Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o’r cynigion a ddaw i law.
