Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc
05-Tach-2009
Bydd camerâu S4C yn ffilmio Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc, a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno ar 21 Tachwedd. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu yn y gyfres Digwyddiadau o9, sy’n rhan o dymor Crwydro Cymru S4C, ym mis Rhagfyr. Cwmnïau cynhyrchu Rondo a Telesgôp fydd yn cynhyrchu’r rhaglen ar gyfer S4C.
