Neidio at y cynnwys

S4C

Gwahoddiad i gyflwyno syniadau ar gyfer rhaglenni plant i’w darlledu yn 2010.

20-Tach-2009

Yn dilyn dyfarnu cytundeb gwasanaeth plant hyn rydym yn dymuno comisiynu cyfresi pellach fydd yn addas i blant ar draws ystod oedran y gwasanaeth (sef 7 i 13 oed). Rydym yn gwahodd cwmniau i anfon syniadau am gyfresi drwy’r wefan gynhyrchu
http://www.s4c.co.uk/production/rm/idea_add/language/wel/.

Rydym yn chwilio am gyfresi yn y meysydd canlynol:-

Cerddoriaeth a/neu berfformio
Natur/Gwledig

Dylai’r cyfresi fod yn ddyfeisgar ac adloniadol ond hefyd yn addas i’w hail ddarlledu felly ni ddylai’r driniaeth a’r cynnwys fod yn or gyfredol. Rydym yn edrych yn benodol am gyfresi 30 munud er y gall rhaglenni o hydoedd eraill gael eu hystyried (ond dim byrrach na 15 munud). Nid oes canllawiau pendant o ran nifer y rhaglenni o fewn cyfres.

Rhagwelir y bydd cost yr awr rhwng £25,000 a £60,000 yn dibynnu ar gynnwys a nifer y rhaglenni gyda chyfanswm cost y cyfresi yn amrywio rhwng £100,000 a £250,000. Y bwriad yw comisiynu hyd at 5 cyfres o dderbyn syniadau fydd yn amrywio o ran cost o fewn yr ystod hon. Anogir cwmnïau i ystyried ffyrdd o gynhyrchu a fydd yn sicrhau gwerth gorau a dylid nodi amcan bris fel rhan o’r cais yn ogystal â nifer a hyd y rhaglenni yn y gyfres. Gellir cynnig cyfresi pellach o raglenni sydd eisoes wedi eu darlledu ar S4C cyhyd â bod y cyfresi hynny yn disgyn o fewn y meysydd a nodir uchod. Bydd disgwyl i’r rhaglenni gael eu cyfleu mewn Manylder Uwch.

Y bwriad fydd darlledu’r cyfresi o Ebrill 2010 ymlaen a dylid nodi fel rhan o’r cynnig y dyddiad cynharaf y bydd y cyfresi yn barod i’w cyfleu.

Bydd y cynigion yn cael eu trafod yn ystod yr wythnos yn dechrau 14 Rhagfyr 2009. Felly dylai pob cynnig gyrraedd gwefan S4C erbyn 12:00 ganol dydd, Gwener 11 Rhagfyr 2009.

Noder nad tendr yw’r broses hon ac fe fydd y syniadau yn cael eu hystyried fel rhan o’r drefn gomisiynu arferol. Noder fodd bynnag na fydd tîm golygyddol S4C yn trafod unrhyw syniadau o flaen llaw gyda chynhyrchwyr cyn iddynt gael eu cyflwyno drwy’r wefan. Byddwn yn hysbysu cwmniau fod gennym ddiddordeb mewn trafod y syniadau ymhellach erbyn dydd Gwener 8 Ionawr 2010.

Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o’r cynigion a ddaw i law.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales