Gwasanaethau Plant 13+
24-Tach-2009
Awydd ac uchelgais S4C yw darparu gwasanaethau perthnasol sydd wedi eu cynllunio yn arbennig ar gyfer plant. Rydym eisoes wedi ehangu yn sylweddol ein darpariaeth ar gyfer plant meithrin gyda dyfodiad gwasanaeth Cyw yn 2008. Ym mis Ebrill 2010 bydd carreg filltir arall wrth i ni gyflwyno ein darpariaeth newydd i blant oed 6 i 13.
Mae Strategaeth Cynnwys 2009 - 2013 yn nodi y bydd S4C yn parhau i ddatblygu y ddarpariaeth ar gyfer plant, ac rydym nawr yn troi ein golygon at gynulleidfa allweddol arall, sef gwylwyr oed 13 a hŷn.
Rydym yn awyddus i sicrhau gwasanaeth perthnasol, dyfeisgar a chynrychioladol ar gyfer y grŵp oedran hwn. Byddwn yn disgwyl i’r gwasanaeth newydd sicrhau cyrhaeddiad a chreu argraff ac effaith ar ein gwylwyr ifanc. Bydd y gwasanaeth yn cynnig ystod ac amrywiaeth o gynnwys, yn ddeniadol i wylwyr ym mhob rhan o Gymru ac yn adlewyrchu eu cymunedau a’u profiadau fel Cymry ifanc.
Yn unol â threfniadau caffael S4C bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei gynnig ar ffurf tendr cystadleuol ac agored yn y Flwyddyn Newydd.
Yn sgîl cyflwyno’r gwasanaeth newydd hwn, fe fydd cyfres Uned 5 yn dod i ben fis Mai 2010.
Mae’r datganiad hwn yn cynnig rhag rhybudd o fwriad S4C i gyhoeddi tendr mewn cysylltiad â’r gwaith o gynhyrchu cynnwys a dolenni ar gyfer y gwasanaeth newydd. Mae’r gwahoddiad i dendro hefyd yn gyson ag awydd S4C i adeiladu ar y dalent a’r sgiliau sydd wedi eu meithrin yn y sector annibynnol.
Bydd y Broses Dendr yn gyson â’r egwyddorion sydd wedi eu hamlinellu ym Mholisi Caffael S4C, ac yn cael ei rheoli ar sail canllawiau ymarfer da sydd wedi eu datblygu gan S4C mewn perthynas â phrosesau tendr.
