Gwasanaeth Cyw

24-Tach-2009

Mae cytundebau ar gyfer cynhyrchu dolenni Cyw yn dod i ben ym mis Hydref 2010. Mae S4C wedi adolygu’r trefniadau, a bydd y cytundeb yn cael ei ehangu i gynnwys cynhyrchu rhaglenni ar gyfer gwasanaeth Cyw.

Yn unol â threfniadau caffael S4C, bydd cytundeb yn cael ei gynnig ar ffurf tendr cystadleuol ac agored. Bydd manylion y tendr yn cael eu cyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd.