Neidio at y cynnwys

S4C

Gwahoddiad i gyflwyno syniadau ar gyfer Y Daith drwy’r wefan cynhyrchu.

18-Rhag-2009

Y Daith (2010)
Rydym yn dymuno darlledu ail gyfres o raglenni dogfen ym maes crefydd a materion ffydd dan y penawd Y Daith. Fel yng nghyfres 2009, bydd y rhaglenni’n dilyn teithiau neu bererindodau yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn gwahodd cynhyrchwyr i anfon syniadau am raglenni drwy’r wefan cynhyrchu o dan y genre Ffeithiol. Noder nad tendr mo’r broses hon ac fe fydd y syniadau yn cael eu hystyried fel rhan o’r drefn gomisiynu arferol. Bydd y gyfres yn dilyn patrwm cyfres Y Daith 2009 a chyfres O’r Galon. Rydym yn rhagweld creu cyfres gyfansawdd o hyd at chwe rhaglen hanner awr.

Bydd y cynigion yn cael eu trafod yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 25 Ionawr 2010. Felly dylai pob cynnig gyrraedd gwefan S4C erbyn 12:00 canol dydd, Gwener 22 Ionawr 2010. Mae’n fwriad cynhyrchu a darlledu'r gyfres yn ystod 2010. Fe fydd y gyfres yn cynnwys crefyddau gwahanol ac mae’n rhaid sicrhau rhaglenni cyfoes, gyda straeon gafaelgar a siaradwyr cryf.

Bydd cost y rhaglenni yn unol â’n tariffau ac yn ddibynnol ar y cynnwys golygyddol a gofynnwn i chi nodi amcan bris wrth gyflwyno’r cynnig drwy’r wefan.

Byddwn yn hysbysu cwmnïau fod gennym ddiddordeb mewn trafod y syniadau ymhellach erbyn dydd Llun 8 Chwefror 2010.

Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o’r cynigion a ddaw i law.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales