LLWYDDIANT BAFTA S4C - LLONGYFARCHIADAU
26-Ebr-2004
Llongyfarchiadau i bawb a gyfrannodd tuag at lwyddiant S4C yn seremoni BAFTA Cymru eleni.
Enillodd ffilm wefreiddiol S4C am farddoniaeth Gymraeg, Dal: Yma/Nawr, a gyfarwyddwyd gan Marc Evans, dair o'r prif wobrau yn seremoni ddiweddar BAFTA Cymru.
Cipiodd y ffilm, sydd yn cynnwys perfformiadau gan lu o sêr gan gynnwys Ioan Gruffudd, Matthew Rhys, Rhys Ifans a Siân Phillips, y gwobrau am Y Rhaglen Ddogfen/Ddrama Ddogfen Orau, Y Camera Gorau - Heblaw Drama a'r Golygydd Gorau.
Enillodd ffilm gomedi chwerw-felys S4C Siôn a Siân, a ddarlledwyd ar Ddydd Nadolig, ddwy wobr hefyd, Y Ffilm Orau a'r Awdur Gorau ar gyfer y Sgrîn. Enillodd Ryland Teifi, un o sêr y ddrama gomedi swreal Fondue, Rhyw a Deinasors y wobr am yr Actor Gorau.
Roedd y ddogfen bry-ar-y-wal am y gantores Cerys Matthews, Cerys, a enillodd y wobr am Y Rhaglen Ieuenctid Orau, yn un o gyfanswm o 19 o wobrau a enillwyd gan S4C.
Llwyddodd y ffilm animeiddiedig fer Lloriau i gipio'r wobr am Yr Animeiddio Gorau, tra enillodd Matthew Gravelle y Bafta am y Newydd Ddyfodiad Gorau am ei ffilm animeiddiedig Tapiau. Cyflwynwyd yr actor John Ogwen, sydd wedi ymddangos mewn nifer fawr o gynhyrchiadau S4C, gyda Gwobr Arbennig Bafta Cymru.
Enillodd cyd-gynhyrchiad rhyngwladol S4C Pwy Ysgrifennodd y Testament Newydd? y wobr am Y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau. Y cyfansoddwr Karl Jenkins a gyfansoddodd y sgôr ar gyfer y gyfres.
Enillodd y gyfres ddrama tair pennod Triongl y wobr am y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau - Drama ac Y Cynllunio Gorau, tra enillodd y ddrama gyfnod Treflan y wobr am Y Coluro Gorau. Enillodd y ddogfen Trwy Lygaid Thomas Jones, y wobr am Y Rhaglen Addysgiadol Orau.
Cipiodd y gyfres animeiddio ddychan CNEX y Bafta am yr Adloniant Ysgafn Gorau.
Meddai Iona Jones, Cyfarwyddwr Rhaglenni S4C, "Mae'r gwobrwyon yn adlewyrchu partneriaeth greadigol lwyddiannus S4C gyda chynhyrchwyr annibynnol a'r BBC.
"Wrth i ni ymrafael â her yr oes aml-sianelog mae'r gydnabyddiaeth yn hwb arbennig i hyder pawb sy'n cyfrannu at lwyddiant y Sianel."
GWOBRAU 2003 BAFTA S4C:
1. Y Camera Gorau - Heblaw Drama Dal: Yma/Nawr (Fiction Factory) Jimmy Dibling
2. Yr Animeiddio Gorau Lloriau (Cinetig) Jane Hubbard/Maureen O'Kane
3. Y Cyfarwyddwr Goleuo Gorau - Dim Camera Meseia Handel (Tonfedd Eryri) Martin Rodgers
4. Y Rhaglen Ieuenctid Orau Cerys (P.O.P.1) Emyr Penlan/Dafydd Rhys
5. Y Coluro Gorau Treflan (Alfresco) Marie-Doris
6. Y Cynllunio Gorau Triongl (Fiction Factory) Bill Bryce
7. Y Graffeg/Teitlau Gorau Eisteddfod yr Urdd 2003 (Opus) Emyr Jenkins
8. Y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau Pwy Ysgrifennodd y Testament Newydd? (Opus) Karl Jenkins
9. Y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau - Drama Triongl (Fiction Factory) Peter Thornton
10. Y Rhaglen Addysgiadol Orau Trwy Lygaid Thomas Jones (Cwmni Da) Dylan Huws
11. Yr Awdur Gorau ar gyfer y Sgrîn Siôn a Siân (HTV Cymru) Gareth F Williams
12. Y Golygydd Gorau Dal: Yma/Nawr (Fiction Factory) Mike Hopkins
13. Y Ddrama Orau ar gyfer Teledu Moses Pant-y-Brwyn (Opus) Eryl Huw Phillips
14. Y Ffilm Fer Orau The Separation Rob Morgan
15. Yr Adloniant Ysgafn Gorau CNEX (Cwmni Da) Dylan Huws
16. Y Newydd Ddyfodiad Gorau Matthew Gravelle ar gyfer (Beryl Productions)
17. Y Ffilm Orau Siôn a Siôn (Opus) Eryl Huw Phillips
18. Y Rhaglen Ddogfen/Ddrama Ddogfen Orau Dal: Yma/Nawr (Fiction Factory) Ynyr Williams
19. Yr Actor Gorau Ryland Teifi ar gyfer Fondue, Rhyw a Deinasors (Ffilmiau Fondue)

