Newidiadau pwysig i gwrs ail-gymhwyso Iechyd a Diogelwch Cyfle

29-Rhag-2009

O fis Ionawr 2010 fe fydd Cyfle yn cynnal cwrs undydd ail-gymhwyso Iechyd a Diogelwch newydd fydd yn cymryd lle'r CD Rom.

Fe gynhelir y cwrs newydd yn fisol* ar gyfer hyd at 8 o fynychwyr o'r diwydiant. Tiwtoriaid y cwrs fydd David Ellis Jones, Rhys Bevan a Huw Aled.

Cynhelir y cwrs cyntaf ddydd Mercher 27 Ionawr 2010 yn swyddfeydd Cyfle yng Nghaerdydd.

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn deddfwriaeth ynghyd â sicrhau bod y mynychwyr yn parhau i gwblhau asesiadau risg yn gywir. Mae'n ofynnol i unigolion sy'n gweithio ym maes cynhyrchu ail-gymhwyso bob tair blynedd.

Cost y cwrs: £250 + TAW

*Cynhelir cwrs bob 3 mis yng Nghaernarfon.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â David Ellis Jones ar 01286 685242 neu david@cyfle.co.uk.

Cysylltwch â Wayne Full yn Skillset Cymru er mwyn holi am nawdd tuag at gost y cwrs: waynef@skillset.org neu 029 20 452 828