Penodiad Mansel Jones yn Bennaeth y Wasg a Gwybodaeth dros dro
05-Ion-2010
Penodwyd Mansel Jones yn Bennaeth y Wasg a Gwybodaeth S4C dros gyfnod mamolaeth.
Mae Mansel yn ymgynghorydd cyfathrebu sydd â phrofiad helaeth o faes cysylltiadau cyhoeddus.
Fe weithiodd i ITV Cymru am 23 mlynedd a bu’n Bennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus y cwmni hyd at fis Chwefror 2006. Cyn hynny bu’n gweithio fel swyddog y wasg a chysylltiadau cyhoeddus Cymru i’r Gorfforaeth Ddur (bellach Corus) am wyth mlynedd.
Yn gynnar yn ei yrfa bu’n newyddiadurwr gyda’r Western Mail ac ef oedd gohebydd diwydiannol y papur newydd yn y 70au cynnar.
Mae gan Mansel radd MSc mewn Astudiaethau’r Cyfryngau o Brifysgol Caerdydd.

