Seminar Cyfle: gyrfaoedd ym myd archifo

12-Ion-2010

24 Chwefror 2010, 2-4yp, Caerdydd

Seminar rhyngweithiol a llawn gwybodaeth am yr amryw gyfleon a llwybrau gyrfaol sydd ar gael o fewn y sector archifo clyweledol. Mae’n bosib iawn y gall y prynhawn yma newid eich bywyd!
• Allech chi fod yn Rheolwr Archif Cyfryngol?
• Beth yw’r swydd?
• Hoffech chi newid eich llwybr gyrfa, ail-hyfforddi efallai?

Bydd yr arbenigwyr canlynol ar gael ar y diwrnod -
• Sue Malden, Cadeirydd, Focal International
• Edith Hughes, Rheolwr Ymchwil ac Archif, BBC Cymru
• Jen Pappas, Pennaeth Rheoli Cynnwys, S4C
• Owain Meredith, ITV Cymru
• Iola Baines, Rheolwr Datblygu Ffilm, Archif Sgrîn a Sain Genedlaethol Cymru
• Sarah Trigg, Cydlynydd y Gronfa Ffilm, Skillset

Pwy ddylai fynychu? Pobl broffesiynol sydd â diddordeb mewn ail-hyfforddi fel rheolwyr archif yn y cyfryngau. Bydd nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ar gyfer myfyrwyr a graddedigion. Cysylltwch â rhian@cyfle.co.uk i fynegi diddordeb.

Digwyddiad am ddim. Peidiwch ag oedi, cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle. Y seminar hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau a chyfleon ym maes Rheoli Archif Cyfryngol yn ystod 2010. Ewch i www.cyfle.co.uk i gofrestru nawr er mwyn derbyn cylchlythyr Cyfle a sicrhau na fyddwch yn colli’r cyfle.

Am wybodaeth bellach ewch i: www.cyfle.co.uk