Tendr Yr Urdd

28-Ion-2010

Mae cwmni Avanti wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i gynhyrchu rhaglenni S4C o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Hyd y cytundeb yw tair blynedd o hyd. Mae'n cynnwys darlledu oriau byw a rhaglenni uchafbwyntiau; darlledu Cyngerdd Agoriadol yr Ŵyl a chystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Mae'r cytundeb yn cychwyn gydag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010 yn Llanerchaeron, Ceredigion. Bydd disgwyl i'r holl ddeunydd gael ei gyfleu mewn Manylder Uwch.