Neges gan y Prif Weithredwr

02-Chwe-2010

Rwy'n anfon y nodyn hwn i'ch hysbysu o benderfyniad sydd yn effeithio ar staff S4C.

Am y tro cyntaf erioed ni fydd codiad tâl nac unrhyw newid i amodau staff S4C eleni. Mae hyn yn effeithio ar bob swyddog ac aelod o staff yn ddiwahân. Mae'n arwydd clir bod S4C hefyd yn gorfod delio â'r sefyllfa economaidd anodd sy'n wynebu cynifer o sefydliadau eraill yn y sector gyhoeddus a chwmnïau preifat.

Mae'r rhagolygon ar gyfer y blynyddoedd nesaf yn mynd i brofi'n her i S4C. O ganlyniad, bydd angen i bob un ohonom ymdrechu i'r eithaf i sicrhau bod ein gwasanaethau yn parhau'n berthnasol, ein bod yn ymatebol i anghenion cynulleidfaoedd ac yn deall beth sydd yn ddisgwyliedig gan gorff cyhoeddus sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus.

Er nad yw'n arferol i mi gysylltu â chi ar fater mewnol, rwyf o'r farn y dylech fod yn ymwybodol o'r ffordd mae S4C yn ymateb i amgylchiadau eithriadol.

Iona Jones