Neges gan y Prif Weithredwr
10-Chwe-2010
Rwy'n anfon y nodyn hwn i'ch hysbysu o benderfyniad sydd yn effeithio ar rai o staff S4C.
Yn dilyn adolygiad manwl rydym wedi penderfynu gostwng niferoedd staff mewn rhai ardaloedd o S4C.
Fe hysbyswyd staff dethol o'r penderfyniad mewn cyfarfodydd mewnol yn S4C yn gynharach heddiw.
Rydym yn mynd i geisio cyflawni hyn drwy wahodd ceisiadau am ddiswyddiadau gwirfoddol neu ymddeoliad cynnar yn y lle cyntaf. Ar yr un pryd bydd gwybodaeth am rai swyddi newydd ar gael er mwyn i unigolion gael ystyried dewisiadau posib.
Os na fydd y broses hon yn ateb y gofyn am ostwng niferoedd yna bydd yn rhaid wynebu sefyllfa o ddiswyddo gorfodol. Rydym yn gobeithio gallu lleihau'r posibilrwydd o ddiswyddo gorfodol i'r graddau eithaf posib.
Bydd hwn yn gyfnod o ansicrwydd felly i nifer o aelodau staff y byddwch chi yn ymwneud â nhw o ddydd i ddydd ac oherwydd hynny rwyf am i chi wybod am y penderfyniad.
Mae ein golygon yn parhau ar sicrhau fod S4C yn darparu'r gwasanaethau gorau posib i gynulleidfaoedd.
Iona Jones

