Gofynion Cyfleu S4C
18-Chwe-2010
Yng nghyfarfod blynyddol TAC ar y 03.12.2008 trafodwyd pryder S4C am dapiau yn cael eu cyfleu yn hwyr, a’r effaith ar effeithiolrwydd darlledu. Ar y pryd dim ond 52% o’r tapiau oedd yn cyrraedd ar amser, ac roedd 20% o’r holl dapiau yn cael eu dychwelyd i’r cwmnïau (am nifer o wahanol resymau).
Mae Cyfarwyddiaeth Darlledu a Dosbarthu S4C yn parhau i fonitro’r sefyllfa. Mae’r data am Ionawr 2010 yn dangos fod 49% o’r tapiau wedi eu cyfleu yn hwyr, a bu’n rhaid trefnu dychwelyd 18% o’r holl dapiau am resymau amrywiol. Yn ogystal, mae nifer o enghreifftiau lle mae hyd y rhaglenni yn amrywio o’r hyn a nodwyd yn y cytundeb. Mae effaith hyn (yn arbennig os yw tapiau yn cael eu cyfleu yn hwyr) yn achosi problemau ymarferol.
Mae mwy o fanylion yn y ddogfen Cyfleu tapiau’n hwyr.
Bydd S4C yn parhau i fonitro’r tapiau cyfleu, gan ystyried y dyddiadau ac amseroedd cyfleu, hyd y rhaglenni ynghyd ag agweddau cydymffurfiaeth dechnegol a brand. Os yw’n briodol bydd S4C yn rhannu’r manylion gyda’r cynhyrchydd, i’w trafod ymhellach.
Er hwylustod dyma’r linc i’r ddogfen sy’n nodi’r union hyd ar gyfer rhaglenni S4C - http://www.s4c.co.uk/production/downloads/guidelines/proglength-w.pdf
Noder mai cyfleu tapiau sydd yn cael ei drafod uchod - mae cyfleu manylion am raglenni (ffurflenni PaC ac ati) ar wahân.

