Cwestiwn ac ateb ar dendr plant a phobl ifanc 13+
25-Chwe-2010
Cwestiwn
Ydy hi’n iawn i ragdybio, gan fod y gwasanaeth wedi ei anelu at 13+ hyd 18 oed, fod yr holl gynnwys i fod yn ddeunydd y gellir ei ddarlledu cyn y trothwy? Os ydy’r ateb yn Nac ydyw, beth wedyn sydd i rwystro gwyliwr 14 oed i ddefnyddio system recordio i recordio deunydd wedi’r trothwy?
Ateb
Mae S4C yn dilyn cod darlledu a nodiadau arweiniol Ofcom wrth amserlenni rhaglenni. Mae’r Cod yn nodi’r rheolau sy’n berthnasol i blant o dan bymtheg oed a’r rhai hynny o dan ddeunaw.
Gweler Cod Darlledu Ofcom a’r nodiadau arweiniol am fwy o fanylion (ar gael yn Ssaesneg yn unig).
http://www.ofcom.org.uk/tv/ifi/codes/bcode/
Mi fydd amser darlledu’r rhaglenni hefyd yn dibynnu ar natur a chynnwys y syniadau a gyflwynir. Mae’r ddogfen dendr yn gofyn i gwmnïau ddarparu gwybodaeth am y gynulleidfa darged fel rhan o’r cais. Gweler pwynt 4.4 o’r ddogfen dendr: ‘Dylech nodi yn benodol union oedran darged ar gyfer pob syniad unigol. Dylech yn ogystal ymhelaethu ar addasrwydd y cynnwys i’r gynulleidfa darged a’i gofynion’.
O ran rhwystro recordio deunydd a ddarlledir wedi’r trothwy, nid yw S4C yn medru atal hyn (mae hyn yr un mor berthnasol i ddarlledwyr eraill fel y BBC, ITV a Channel 4). Byddai angen i riant neu ofalwr y plentyn/person ifanc sicrhau fod PIN neu ddyfais arall gyffelyb mewn lle.
Tendr i gynnig cyfresi ar gyfer y gwasanaeth i blant hŷn a phobl ifanc (13+) ar S4C

