Tendr Criced – Datganiad gan S4C

25-Chwe-2010

Ddiwedd 2009, fe gyhoeddodd S4C wahoddiad agored i gwmnïau cynhyrchu dendro ar gyfer cynhyrchu rhaglenni Criced ar gyfer y Sianel.

Cyhoeddwyd y tendr, yn unol â threfn dendro’r Sianel, yn dilyn llwyddiant S4C i sicrhau’r hawliau i ddarlledu nifer o gemau 20/20 Morgannwg yn fyw o Stadiwm Swalec, Caerdydd. Roedd y pecyn rhaglenni yn cynnwys gemau byw a rhaglenni rhagflas ac uchafbwyntiau.

Bwriad S4C yw cynnig darpariaeth fydd yn ymdrin â phob agwedd ar y chwarae ar y cae ond hefyd yn cyfleu cyffro ac awyrgylch arbennig y gêm fyw i’r gwyliwr gartref.

Yn anffodus, nid oedd y tendrau a gafodd eu cyflwyno yn cwrdd â gofynion a disgwyliadau golygyddol S4C.

O ganlyniad i hyn, mae S4C wedi ail asesu’r sefyllfa a bydd y gwaith o oruchwylio a chydlynu’r ddarpariaeth yn cael ei weithredu mewn modd uniongyrchol gan S4C. Nid yw hyn yn gosod cynsail; yr unig reswm am y penderfyniad yw safon siomedig y tendrau.

Bydd y gwariant mewn cysylltiad â’r cynhyrchiad yn cael ei weithredu yn unol â threfniadau caffael S4C a bydd cyfleoedd i gystadlu am elfennau o’r gwaith yn cynnwys rolau cynhyrchu a chytundebau technegol.

Mae S4C yn annog y sector i ystyried goblygiadau methu a chwrdd â gofynion S4C yng nghyd-destun y tendr hwn. Mae’r Sianel o’r farn y dylai cwmnïau cynhyrchu achub ar y cyfle i ystyried safon a natur y syniadau a ddatblygir wrth lunio tendr, a’r wybodaeth a roddir yn unol â strategaeth cynnwys S4C wrth ymgeisio am gytundebau trwy broses dendro agored.