Neidio at y cynnwys

S4C

Neges gan y Prif Weithredwr

01-Maw-2010

Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddwyd na fu modd i S4C wobrwyo cytundeb i gwmni annibynnol yn dilyn proses dendro. Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd. Mae hyn yn siom i bawb ac yn sefyllfa nad yw’n ddelfrydol i'r sector nac i S4C.

Fel rhan o'r cyhoeddiad fe ddywedwyd bod angen i gwmnïau cynhyrchu ystyried goblygiadau'r methiant i wobrwyo'r tendr hwn wrth ymgeisio am gytundebau eraill.

Er eglurdeb mae S4C yn parhau yn ymroddedig i sicrhau'r bartneriaeth fwyaf adeiladol posib gyda chwmnïau cynhyrchu er budd y gwasanaeth a chynulleidfaoedd. Mae ein partneriaeth yn darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel ar deledu ac ar-lein a gallwn ni gyd ymfalchïo yn ein cyflawniad.

Mae o fudd i bawb weithio tuag at y nod o gyflawni uchelgais ein strategaeth cynnwys a lle mae diffygion i fod yn agored ac yn adeiladol. Rwy'n ffyddiog y bydd y drefn newydd ar gyfer ymwneud â TAC a’r sector yn fodd i sicrhau trafodaethau brwd ar anghenion a disgwyliadau'r sector ac S4C fel ei gilydd. Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod buan.

Iona Jones

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales