Cwestiwn ac ateb ar dendr plant a phobl ifanc 13+
04-Maw-2010
Cwestiwn:
Allwch chi egluro a oes angen enghraifft o drefn rhaglen ar gyfer un bennod os ydym wedi cynnwys manylion y fformat. Neu, er enghraifft, ydy amlinelliad o’r strwythur yn ddigonol ar gyfer syniadau mwy dogfennol?
Ateb:
Gallwn dderbyn naill ai manylion y fformat neu drefn rhaglen ond dylent roi digon o wybodaeth i roi darlun manwl o’r rhaglen neu’r gyfres arfaethedig. Mae amlinelliad o’r strwythur yn dderbyniol ar gyfer unrhyw syniadau dogfennol.
Tendr i gynnig cyfresi ar gyfer y gwasanaeth i blant hŷn a phobl ifanc (13+) ar S4C
