Neidio at y cynnwys

S4C

Gwahoddiad i gyflwyno syniadau materion cyfoes drwy’r wefan cynhyrchu

11-Maw-2010

Mae Strategaeth Cynnwys S4C yn nodi’r angen i sicrhau darpariaeth gynhwysfawr sy’n cynnig golwg unigryw ar y Gymru gyfoes, ac ar weddill y byd trwy lygaid Cymreig. Mae’n dweud hefyd bod angen cynnig gwybodaeth, arwyddocâd a chyd-destun i bobl Cymru am y penderfyniadau sy’n cael effaith ar eu bywydau.

Rydym yn awyddus i atgyfnerthu ein harlwy ffeithiol newyddiadurol a materion cyfoes, a chryfhau ymhellach ein hymatebolrwydd i faterion pwysig y dydd a digwyddiadau mawr.

Mae’n fwriad gennym felly i gomisiynu rhaglenni dogfen newydd dan y teitl gweithredol ‘Byd Pawb’. Rydym yn rhagweld creu cyfres gyfansawdd gan ddarlledu uchafswm o chwech o raglenni awr neu hanner awr dros gyfnod o 12 mis, ac fe’ch gwahoddir i anfon syniadau ar gyfer y rhaglenni drwy’r wefan cynhyrchu o dan y genre Ffeithiol.

Croesewir syniadau o wahanol feysydd fydd yn rhoi cyd-destun i benderfyniadau, digwyddiadau, straeon newydd, neu bynciau trafod cyfredol. Y llinyn mesur pwysicaf ar gyfer Byd Pawb yw bod y pwnc a’r driniaeth yn gyfoes ac yn berthnasol i’r gynulleidfa fel Cymry a dinasyddion y byd. Bydd yr arddull gyflwyno a chynhyrchu yn amrywio yn ôl y pwnc.

Er y bydd y rhaglenni yn dod o dan yr ymbarél newydd hwn, nid oes rhaid darlledu’r rhaglenni yn wythnosol o fewn cyfnod penodol, a gall rhaglenni unigol gael eu darlledu ar adegau gwahanol yn ôl y galw - gan gynnwys rhaglenni sy’n ymateb yn sydyn i ddigwyddiadau mawr.

Gofynnir i chi gyflwyno’ch syniadau ar gyfer rhaglenni i’w darlledu yn ystod 2010 a dechrau 2011 erbyn 12:00 canol dydd, dydd Llun 10 Mai 2010 ond bydd croeso i syniadau ar gyfer rhaglenni i’w darlledu wedi ail chwarter 2011 gael eu cyflwyno wedi’r dyddiad hwn.

Bydd cost y rhaglenni yn unol â’r tariffau ffeithiol ac yn ddibynnol ar y cynnwys golygyddol a gofynnir i chi nodi amcan bris wrth gyflwyno’r syniad drwy’r wefan yn ogystal ag amcan o’r cyfnod pan fydd y rhaglen yn barod i’w chyfleu. Bydd y syniadau yn cael eu hystyried yn unol â’r drefn gomisiynu ddi-dor.

Byddwn yn ymateb i’r syniadau erbyn diwedd mis Mai 2010.

Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o’r cynigion a ddaw i law.




© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales