Neidio at y cynnwys

S4C

Gwahoddiad i gyflwyno syniadau ar gyfer cyfresi adloniant drwy’r wefan cynhyrchu

11-Maw-2010

Mae gwaith ymchwil S4C gyda’n cynulleidfaoedd yn pwysleisio’r angen am raglenni adloniant teuluol ac am raglenni ysgafn hwyliog hawdd i’w gwylio. Rydym yn ystyried ei bod yn bwysig i S4C gynnal yr ymrwymiad yn y maes cystadleuol hwn yn gyson gyda Strategaeth Cynnwys S4C.

Mae’n fwriad gennym felly i gomisiynu cyfresi adloniant newydd. Rydym yn chwilio am gyfresi o rhwng 6 a 10 pennod gyda’r rhaglenni’n naill ai’n 30, 45 neu 60 munud o hyd

Croesewir syniadau am wahanol fathau o raglenni sy’n llawn hwyl ym maes adloniant. Ein dyhead yw bod y syniadau yn cyflawni un neu fwy o’r canlynol:

- cyfle i’r teulu cyfan gyd-wylio a mwynhau
- rhyngweithio â’r gynulleidfa
- yn cynnwys perfformiadau amrywiol

Gallwch ystyried cynnig hyn mewn stiwdio neu ar leoliad.

Fe’ch gwahoddir i gyflwyno syniadau drwy’r wefan cynhyrchu o dan y genre Adloniant erbyn 12:00 canol dydd, dydd Llun 19 Ebrill.

Bydd cost y cyfresi yn unol â’r tariffau adloniant ac yn ddibynnol ar y cynnwys golygyddol a gofynnir i chi nodi amcan bris wrth gyflwyno’r syniad drwy’r wefan yn ogystal ag amcan o’r cyfnod pan fydd y rhaglen yn barod i’w chyfleu. Bydd y syniadau yn cael eu hystyried yn unol â’r drefn gomisiynu ddi-dor.

Byddwn yn ymateb i’r syniadau erbyn diwedd mis Ebrill 2010.

Cedwir yr hawl i beidio â chomisiynu unrhyw un o’r cynigion a ddaw i law.




© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales