Neidio at y cynnwys

S4C

Canllawiau Rhaglenni

18-Maw-2010

Mae didueddrwydd yn un o brif egwyddorion gwasanaeth darlledu cyhoeddus, ac mae'r bartneriaeth agos rhwng S4C a'r cwmnïau cynhyrchu yn bwysig iawn er mwyn sicrhau hynny yn barhaol.

Fel rhan o'r broses o ragbaratoi am gyfnod etholiad, bydd S4C yn darparu nodyn i'r cwmnïau yn cynnwys canllawiau penodol ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2010 ac yn esbonio'r drefn o ddelio gydag unrhyw ymholiadau a chwynion. Bydd y nodyn hwn yn cael ei gyhoeddi ar Safle Cynhyrchu S4C yn
fuan.

Yn sgil y broses hon mae S4C hefyd wedi adolygu'r canllawiau cyffredinol sydd yn ymwneud â chynnwys ac agweddau cydymffurfiaeth mewn rhaglenni.
Mae'r hen ganllawiau (fersiwn dyddiedig 2001) wedi eu diwygio er mwyn adlewyrchu gofynion cydymffurfiaeth presennol a sicrhau didueddrwydd yn ein gwasanaethau. Credwn fod y canllawiau yn gofnod clir o ddisgwyliadau a gofynion S4C. Mae'r ddogfen newydd ar gael ar y Safle Cynhyrchu
http://www.s4c.co.uk/production/downloads/guidelines/canllawiau-rhaglenni-S4C-10-03-10.pdf

Bydd y canllawiau yn weithredol ar unwaith ac yn cael eu hymgorffori yn y cytundebau comisiynu. Bydd y canllawiau hefyd yn weithredol ar gyfer y Cytundebau Trwyddedu a Chomisiynu sydd eisoes mewn lle/wedi eu harwyddo gyda S4C. Mae'r nodyn hwn yn eich hysbysu yn ffurfiol o'r newid yn y canllawiau.

Dylai unrhyw ymholiadau am y canllawiau gael eu cyfeirio at canllawiau@s4c.co.uk. Byddwn ni hefyd yn trafod y trefniadau er mwyn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r canllawiau gyda TAC.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales