Tendr Gŵyl Cerdd Dant Cymru 2010-2012
18-Meh-2010
Canlyniad y tendr - 18 Mehefin 2010
Yn dilyn proses dendro, mae S4C wedi dewis cwmnïau cynhyrchu Rondo a Telesgop i gynhyrchu darllediadau o'r Ŵyl Cerdd Dant ar y cyd dros y tair blynedd nesaf.
Mae'r Ŵyl Cerdd Dant yn ddigwyddiad blynyddol ac yn un o uchafbwyntiau amserlen ddarlledu S4C. Mae S4C wedi sicrhau'r hawliau i ddarlledu rhaglenni o Ŵyl Cerdd Dant Cymru am y cyfnod 2010-2012.

