TREFN WEINYDDOL NEWYDD YNG NGHAERNARFON
20-Mai-2004
Mae cefnogaeth weinyddol swyddfa S4C yng Nghaernarfon wedi newid.
Dychwelodd Llinos Jones, Cynorthwy-ydd Gweinyddol y swyddfa, o'i chyfnod o absenoldeb mamolaeth ddydd Llun, 17eg o Fai. Bellach bydd Llinos yn gweithio'n rhan amser er mwyn caniatau iddi dreulio mwy o amser efo'i phlant Elan, Bedwyr ac Elis. Bydd Llinos yn gweithio bob Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Mercher.
Yn rhannu'r swydd yn y swyddfa yn Lôn Ddewi efo Llinos mae Catrin Jones. Yn hogan o Langefni, mae Catrin wedi dychwelyd i Gymru o Ffrainc yn ddiweddar, lle bu'n gweithio i gymdeithas ryngwladol sy'n hybu ymchwil i boblogaeth. Bydd Catrin yn gweithio bob Dydd Iau a Dydd Gwener.
Bydd Llinos a Catrin yn rhoi cefnogaeth weinyddol i'r Comisiynydd Adloniant Ffeithiol, Nici Beech a'r Comisiynydd Cynorthwyol, Siân Esmor, yn ogystal â staff eraill y swyddfa sef Marred Jones (Y Wasg), Angharad Prys (Marchnata) a Meinir Williams (Ymchwil).
Gellir cysylltu â Llinos a Catrin drwy ffôn ar (01286) 674622, drwy ffacs ar (01286) 676611 neu drwy e-bost: llinos.jones@s4c.co.uk a catrin.jones@s4c.co.uk

