Cynllun Fetio a Gwahardd. Diweddariad ar gyfer y Polisi S4C ar Amddiffyn plant a Phobl Fregus Eraill

12-Gorff-2010

Mae S4C wedi penderfynnu peidio ag adolygu’r Polisi Amddiffyn Plant a Phobl Fregus Eraill yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth o’u bwriad i ailfodelu'r Cynllun Fetio a Gwahardd “yn nol i lefelau cymesurol synnwyr cyffredin”. Yn dilyn y cyhoeddiad yma, mae cyfnod cofrestru'r Awdurdod Diogelu Annibynnol o fewn y cynllun wedi cael ei atal ac felly ni fydd yn lansio ar 26 Gorffennaf 2010 fel y bwriadwyd.
Er bod manylion llawn yr ailfodelu hwn yn dal i’w cwblhau:-
• Bydd yr elfennau a rhoddwyd yn eu lle gan Y Cynllun Fetio a Gwahardd yn nol yn Hydref 09 yn parhau. Cyfeiriwch os gwelwch yn dda at wefan yr Awdurdod Diogelu Annibynnol am ragor o wybodaeth: http://www.isa-gov.org.uk/
• Bydd gofynion presennol ynghylch y Swyddfa Cofnodion Troseddol (‘CRB’) yn parhau yn eu lle, a rhai sydd â hawl i archwiliadau o'r fath yn gallu parhau i wneud cais amdanynt
• Bydd y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn dal i lansio ffurflen gais newydd ar 26 Gorffennaf 2010 (fel y bwriadwyd yn wreiddiol) ac mae trefniadau dros dro yn eu lle. Cyfeiriwch at y wefan Swyddfa Cofnodion Troseddol am wybodaeth bellach a dyddiadau allweddol:
http://www.crb.homeoffice.gov.uk/
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiad ynglyn a’r uchod i’ch Rheolwr Uned yn S4C.

Canllawiau Cynllun Fetio a Gwahardd - plant a phobl fregus 26/03/10