Neidio at y cynnwys

S4C

S4C yn cynnal digwyddiad i gynhyrchwyr annibynnol

13-Awst-2010

Annwyl gydweithwyr,

Hoffwn eich gwahodd i ddiwrnod o drafodaeth a gweithdai yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod ar Ddydd Sul, 22ain o Awst rhwng 10am a 4pm.

Nod y diwrnod yw cael trafodaeth agored gyda chynrychiolwyr y sector gynhyrchu ynglyn â sut i ddelio gyda'r her sy'n wynebu'r Sianel a'r sector ar hyn o bryd. Rwyf yn awyddus i gael cynrychiolaeth eang ond byddwn yn ddiolchgar petaech yn cyfyngu’r niferoedd i ddim mwy na dau berson ar ran bob cwmni.

Wnewch chi os gwelwch yn dda gadarnhau eich presenoldeb gyda Gwydion Lyn ar 029 2074 1452 neu gwydion.lyn@s4c.co.uk.

Edrychaf ymlaen i’ch cyfarfod ddydd Sul.

Arwel Ellis Owen
Prif Weithredwr

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales