Holiadur Asesiad Economaidd S4C
24-Awst-2010
Fel y gwyddoch, mae S4C wedi comisiynu adroddiad gan gwmni DTZ i fesur effaith gwariant y Sianel ar economi Cymru.
Mae’r wybodaeth gan y cwmnïau yn bwysig i’r astudiaeth hon. Cwmnïau a ariannwyd gan S4C rhwng y cyfnod 2007 i’r presennol sydd wedi derbyn holiadur. Os ydych wedi eich hysbysu am yr astudiaeth ond heb gwblhau'r holiadur yna gofynnwn i chi wneud hynny erbyn 31 Awst 2010 os gwelwch yn dda. Rydym yn ddiolchgar iawn o’ch cydweithrediad.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Huw Jones yn Uned Ymchwil S4C ar 02920 741334 neu huw.jones.ymchwil@s4c.co.uk
