Gwobr Ryngwladol KidScreen i S4C yn Efrog Newydd

18-Chwe-2011

Mae ffilm feithrin S4C wedi ennill gwobr ryngwladol yn KidScreen, cynhadledd teledu plant fwyaf blaenllaw'r byd, syn cael ei chynnal yn Efrog Newydd.

Y ffilm deledu Ble Mae Cyw? ddaeth ir brig yn y categori meithrin Best One-Off, Special or TV Film yn y seremoni wobrwyo KidScreen neithiwr (Nos Iau 17 Chwefror). Bun cystadlu yn erbyn cynhyrchiad The Adventures of Charlotte and Henry (a gynhyrchwyd gan Optimistic Pictures) o Awstralia.

Mae'r ffilm - a gynhyrchwyd gan gwmni Boomerang+ ar gyfer gwasanaeth meithrin ddyddiol S4C, Cyw - yn dilyn rhai o gymeriadau meithrin mwyaf poblogaidd y sianel wrth iddynt geisio dod o hyd i Cyw sydd wedi diflannu.

Meddai Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, Sin Eirian,: "Mae S4C yn falch iawn i ennill y wobr hon ac i gael eu hystyried ochr yn ochr chynnwys i blant gorau ar draws y byd. Maer wobr KidScreen yn gydnabyddiaeth ryngwladol or hyn mae S4C ar cynhyrchwyr yng Nghymru yn gyflawni ac maen adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarlledu rhaglenni plant or safon uchaf.

Meddai Angharad Garlick o gwmni Boomerang+, cyd-gynhyrchydd y ffilm fuddugol, Mae Boomerang yn ymfalcho yn ein cyfraniad yn y maes meithrin ac yn ymfalcho hefyd yn ein tm syn arbenigo yn y maes.

Mae cynhadledd KidScreen yn cael ei hystyried yn ddigwyddiad pwysig o fewn y diwydiant ac maer gwobrau wedi denu enwebiadau o bob cwr or byd.

Diwedd