Tendr Sioe Nos Wener

12-Medi-2011

Nodyn i’ch atgoffa fod y cyfnod i holi cwestiynau am y tendr yma yn dod i ben dydd Gwener 16 Medi 2011.

Yn sgîl y broses briffio dyma eich atgoffa o rai o’r egwyddorion:
• Mi fydd S4C yn ariannu pob Peilot yn ystod y broses tendr. Unwaith fydd y comisiwn wedi ei gynnig i’r ymgeisydd llwyddiannus mi fydd cost unrhyw beilot yn dod o gyfanswm y gyllideb ar gyfer y Sioe Nos Wener.
• Dewis y cwmni fydd cynnig rhaglenni byw neu raglenni wedi eu recordio; neu gymysgedd o’r ddau.
• Mae sail yr Uchafswm pris yng nghyd-destun gweddill yr amserlen a’r cyllid sydd ar gael ar gyfer y slotiau penodol yma.