Mae gan Skillset Cymru enw newydd, sef Creative Skillset Cymru!
13-Ebr-2012
Mae gan Skillset Cymru enw newydd, sef Creative Skillset Cymru!
Efallai eich bod wedi sylwi ein bod wedi ailfrandio'n ddiweddar, a'n henw erbyn hyn yw Creative Skillset Cymru.
Rydym yn awyddus i'n diwydiannau ddeall ein brand wrth i ni eu helpu i fod o safon fyd-eang. Rydym yn awyddus i'n holl sectorau creadigol ddeall ein cenhadaeth, deall ein bod yn gweithio ar eu rhan a deall ein bod yn uchelgeisiol dros ein diwydiannau. Gobeithiwn y byddwch yn cytuno bod ein henw a'n logo newydd, ynghyd â'r is-bennawd, 'Datblygu talent o safon fyd-eang", yn esbonio'n eglur pwy ydym ni a'r hyn rydym yn ei wneud.
Bydd 'hen' gyfeiriad ebost a gwefan Skillset yn gweithio am ychydig o amser eto, ond cofiwch ddiweddaru ein manylion cyswllt, a newidiwch unrhyw ddolenni cyswllt sydd gennych sy'n arwain at ein gwefan cyn gynted â phosibl. Os bydd angen copi o'r logo newydd ar Dîm y We yn eich sefydliad, cysylltwch â ni er mwyn i ni ei anfon atoch.
Creative Skillset | 33-35 West Bute Street | Bae Caerdydd/Cardiff Bay | Caerdydd/Cardiff | CF10 5LH |
T: 02920 459 154 | F: 02920 489 539 | E: Nerysr@creativeskillset.org
W: www.creativeskillset.org

