Gwahoddiad syniadau

30-Ebr-2012

Mae S4C wedi ennill yr hawl i ddarlledu o ddigwyddiad dathlu penblwydd Cymdeithas yr Iaith yn 50 ym Mhahfiliwn y Bont, Pontrhydfendigaid.
Cynhelir GIG 50 ar benwythnos y 13eg a’r 14eg o Oreffennaf 2012, lle bydd 50 o artisitiaid o Gymru yn perfformio yn ystod y deuddydd.
Gwahoddir syniadau gan gwmnïoedd ar sut y gellir darlledu i adlewyrchu’r digwyddiad.
Mae gennym becyn gwybodaeth ychwanegol ar gael i’r cwmnïoedd hynny sydd am gynnig syniadau, a gellir derbyn hwn drwy gysylltu ag Angharad P Jones, y cydlynydd comisiynu
(029 20741426 neu angharad.p.jones@s4c.co.uk), cyn hanner dydd ar ddydd Gwner y 4ydd o Fai, fel ein bod yn medru ei dosbarthu cyn diwedd y dydd.
Disgwylir i’r syniadau ein cyrraedd erbyn canol dydd ar ddydd Llun y 21ain o Fai.
Er gwybodaeth Gaynor Davies yw’r comisiynydd.