Gwahoddiad Syniadau

09-Mai-2012

Darpariaeth S4C o Daith Tîm Rygbi Cymru i Awstralia

Mae S4C wedi sicrhau hawliau darlledu Taith Tîm Rygbi Cymru i Awstralia ym mis Mehefin 2012. Rydym yn gwahodd syniadau, oddi wrth gwmnïau cynhyrchu sydd â phrofiad helaeth o ddarparu rhaglenni chwaraeon i S4C. Dylech nodi sut y gallwch ateb gofynion ein gwylwyr a gwneud y gorau o'r hawliau sydd gennym.

Byddwn yn gwobrwyo'r gwaith ar sail gwerth am arian a chynnwys golygyddol cryf fydd yn ymateb i ofynion ein gwylwyr.

Mae gennym yr hawl i ddarlledu'r tair gem brawf yn eu cyfanrwydd ar ôl 21.00 ar ddiwrnod y gemau.

Os oes gennych ddiddordeb i gynnig am y gwaith cysylltwch â'r Comisiynydd Chwaraeon Geraint Rowlands am fanylion pellach. Byddwn yn anelu i apwyntio'r cwmni llwyddiannus erbyn Dydd Gwener Mai 18 2012 a dylid e-bostio eich syniadau at y Comisiynydd Chwaraeon (geraint.rowlands@s4c.co.uk) erbyn 16:00 Mercher 16 Mai 2012.