Gofod Swyddfa
18-Mai-2012
O ganlyniad i leihau niferoedd staff S4C a'r angen i wneud arbedion ariannol rydym yn adolygu'r defnydd sy'n cael ei wneud o'n hadeiladau yn Llanisien. Yr opsiwn amlwg yw cynnig gofod swyddfa sbâr i gwmnïau cynhyrchu a sefydliadau allanol. I'r perwyl hwn bydd rhywun ar ran S4C mewn cysylltiad i weld os oes gennych ddiddordeb rhentu gofod swyddfa.
Mae'n bosib y bydd llawr gwaelod swyddfeydd S4C, sy'n mesur 12,000 troedfedd sgwâr, ar gael. Rydym hefyd yn edrych ar y potensial o osod allan hen swyddfeydd S4C Rhyngwladol sy'n cynnig 5,000 troedfedd sgwâr a 10,000 troedfedd sgwâr arall mewn adeilad wrth gefn i brif adeilad S4C.
Bydd y gofod ar gael am gyfnod o rhwng tair a phum mlynedd. Hoffwn bwysleisio mai edrych ar opsiynau yr ydym ar hyn o bryd.
Edrychaf ymlaen at drafod y syniadau gyda chi'n uniongyrchol maes o law.
Kathryn Morris
Cyfarwyddwr Cyllid

