Neidio at y cynnwys

S4C

HUW JONES I ADAEL S4C DDIWEDD 2005

14-Hyd-2004

Mewn cynhadledd ar gyfer dros 100 o gynhyrchwyr annibynnol ym mhencadlys S4C yng Nghaerdydd heddiw (13 Hydref), cyhoeddodd Huw Jones ei fod yn bwriadu gadael y Sianel ddiwedd mis Rhagfyr 2005.

Pwrpas y gynhadledd oedd trafod datblygiadau yn y berthynas rhwng S4C a’r cynhyrchwyr. Wrth annerch y gynhadledd, croesawodd Huw Jones y cydweithio da oedd wedi digwydd wrth i S4C a TAC drafod Cod Ymarfer a Thelerau Masnach newydd a fydd yn rhoi llawer mwy o hawliau i gwmnïau annibynnol.

Dywedodd fod yr hinsawdd ar gyfer datblygiad y sector annibynnol yn addawol ac roedd S4C yn dymuno’n dda i gwmnïau oedd am fentro. Ychwanegodd, “Bydd y gyfres o adolygiadau o ddarlledu cyhoeddus – o S4C, y BBC ac un Ofcom – erbyn diwedd 2005 wedi penderfynu ffurf darlledu cyhoeddus am y dyfodol. Mae’n holl bwysig sicrhau adnoddau ariannol digonol o bob ffynhonnell bosib i ganiatáu i S4C ffynnu yn yr oes gystadleuol hon. Mae S4C a’r cynhyrchwyr annibynnol angen i’r naill a’r llall lwyddo.”

Meddai Huw, “Erbyn diwedd 2005 fe fydd y gyfres o adolygiadau wedi eu cwblhau, a bydd cyfnod newydd ar ddechrau. Fe fydd yn amser delfrydol i drosglwyddo’r awenau.”

Wrth sôn am ei gynlluniau ei hun, meddai Huw, “Rydw i wedi sylwi fod y genhedlaeth ifanc wedi dyfeisio rhywbeth nad oedd yn bod pan o’n i’n ifanc – sef y ‘flwyddyn fwlch’ – y ‘gap year’. Dwi awydd cael un o’r rheiny – cyn penderfynu be ddaw nesa.”

Penodwyd Huw yn wreiddiol ym mis Mehefin 1994 yn olynydd i Geraint Stanley Jones. Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr cwmni teledu annibynnol Teledu’r Tir Glas a Chadeirydd Barcud, yn dilyn gyrfa lwyddiannus fel cynhyrchydd, gŵr busnes a pherfformiwr.

Ef yw trydydd Prif Weithredwr S4C ers lansio’r Sianel ym 1982. Owen Edwards oedd Prif Weithredwr cyntaf S4C.

Magwyd Huw yng Nghaerdydd. Astudiodd Ieithoedd Modern yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Daeth yn adnabyddus fel canwr poblogaidd gan gyhoeddi cyfres o recordiau, gan gynnwys Dŵr a Dwi Isio Bod yn Sais, ac fel cyflwynydd rhaglenni teledu megis Disg a Dawn.

Roedd Huw yn un o gyd-sylfaenwyr Cwmni Recordiau Sain ac ef oedd Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni hyd at 1981. Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu Barcud, y cwmni adnoddau teledu yng Nghaernarfon, ac roedd yn Gadeirydd ar y cwmni rhwng 1981-1993. Huw oedd Cadeirydd cyntaf Teledwyr Annibynnol Cymru.

Mae Huw yn Gyfarwyddwr SDN Cyf., yn aelod Bwrdd Skillset ac yn Gadeirydd Skillset Cymru ac mae’n un o Gyfarwyddwyr Sgrîn. Mae’n aelod o’r British Screen Advisory Council ac yn Gymrawd o’r Gymdeithas Deledu Frenhinol a Phrifysgol Cymru Aberystwyth.

Ychwanegodd Elan Closs Stephens, Cadeirydd S4C, “Mae S4C wedi elwa tros ddegawd o Brif Weithredwr cwbl ymroddedig i’w dasg. Arweiniodd Huw Jones y Sianel trwy gyfnod o newid dwys yn hanes darlledu, o ddechrau’r cyfnod digidol i bwerau masnachol ehangach a’r cyfnod diweddaraf o dwf hawliau’r sector annibynnol.

“Mae ein diolch iddo fel Awdurdod yn ddwfn a diffuant ac edrychaf ymlaen at allu dathlu ei gyfraniad. Yn ystod y 14 mis nesaf bydd Huw yn parhau i orffen y gwaith strategol pwysig o osod seiliau ar gyfer pedwerydd cyfnod cyffrous y Sianel.”

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales