Creative Skillset Cymru – Hyfforddiant

13-Awst-2012

Creative Skillset Cymru - Hyfforddiant Goleuo ar gyfer Drama Teledu Manylder Uwch


Bydd y cynllun hwn yn darparu hyfforddiant ymarferol ar oleuo ar gyfer Drama Manylder Uwch ar gyfer y Teledu, gan gynnig profiad heb ei ail wrth ddefnyddio'r technolegau diweddaraf. Mae'r cynllun hwn yn cael ei addysgu gan y tiwtor David Lock, cyn Gyfarwyddwr Goleuo yn y BBC ar sioeau megis Eastenders a Top of the Pops.
Mwy o wybodaeth - http://www.creativeskillset.org/uk/cymru/Training/article_8859_2.asp

Creative Skillset Cymru - Hyfforddiant Gwerthu a Marchnata gyda phwyslais ar y Cyfryngau Cymdeithasol


Bydd y cynllun hwn yn rhedeg am gyfnod o 5 mis (rhan amser) a bydd yn cynnwys cyfuniad o hyfforddiant dosbarth meistr, astudiaethau achos, cefnogaeth bwrpasol gan fentor, cyfleoedd rhwydweithio, pecyn e-ddysgu a phresenoldeb Cyfryngau Cymdeithasol ar-lein cynhwysfawr.
Mwy o wybodaeth - http://www.creativeskillset.org/uk/cymru/Training/article_8861_2.asp

Creative Skillset Cymru - Hyfforddiant Gwallt a Choluro (SFX/Prosthetigau/Blew ar y Wyneb/Trin Gwallt yn ôl y Cyfnod Hanesyddol)


Mae'r cynllun hwn yn cynnwys cyfres o ddosbarthiadau meistr dwys, yn rhoi'r sgiliau i ddatblygu ac adeiladu gyrfa mewn coluro a gwallt ar gyfer ffilm, y teledu a'r theatr. Mae'r cynllun hwn yn gyfle gwych i ddysgu'r technegau diweddaraf, sut mae'r diwydiant yn gweithio, a gwneud cysylltiadau gyda chyflogwyr posibl y dyfodol.
Mwy o wybodaeth - http://www.creativeskillset.org/uk/cymru/Training/article_8863_2.asp

Creative Skillset Cymru - Hyfforddiant Saethu â Chamerâu Synhwyrydd Mawr


Mae'r cynllun hwn yn cynnwys gweithdy ymarferol sy'n darparu profiad ymarferol a dealltwriaeth gynhwysfawr i'r sawl sy'n cymryd rhan o gamerâu fformat mawr gan gynnwys yr Arri Alexa a'r Red, camerâu synhwyrydd mawr a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu dramâu. Darperir hyfforddiant gan Weithredydd Camera profiadol sydd â thoreth o brofiad a gwybodaeth am y maes hwn.
Mwy o wybodaeth - http://www.creativeskillset.org/uk/cymru/Training/article_8862_2.asp

Creative Skillset Cymru - Hyfforddiant Cyfarwyddo/Cyfarwyddo Lleoliad fel Storïau Gweledol


Mae'r cynllun hwn yn gwrs cyfarwyddo ymarferol dwys 5 diwrnod sy'n canolbwyntio ar y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bod yn gyfarwyddwr drama llwyddiannus gyda phwyslais arbennig ar ddweud storïau gweledol drwy gyfrwng y teledu.
Mwy o wybodaeth - http://www.creativeskillset.org/uk/cymru/Training/article_8865_2.asp

Creative Skillset Cymru - Cynllun Hyfforddiant Cynhyrchydd gyda ffocws ar sgiliau busnes/sgiliau creu cynnwys


Mae 'Producer Plus' yn gynllun hyfforddi lefel uchel estynedig sydd â'r nod o feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent cynhyrchu uwch.
Caiff ei gyflwyno gan rai o gynhyrchwyr rhaglenni mwyaf dylanwadol a gweithredwyr y blynyddoedd diwethaf - gan gynnwys Robert Thirkell, Patrick Uden, Linda Clifford a llawer mwy - fe'i cynllunnir i roi'r sgiliau golygyddol a rheoli sydd eu hangen i gynhyrchu cyfresi rhwydwaith yn hyderus i gynhyrchwyr profiadol.
Mwy o wybodaeth - http://www.creativeskillset.org/uk/cymru/Training/article_8860_2.asp