Neidio at y cynnwys

S4C

DATHLU ENWEBIADAU BAFTAS PLANT

26-Hyd-2004

Mae dwy o raglenni plant S4C wedi eu henwebu yng ngwobrau BAFTA Plant Prydain ble byddant yn brwydro yn erbyn rhai o enwau mwyaf rhaglenni plant y Deyrnas Gyfunol.

Bydd y gyfres animeiddio Sam Tân, a gynhyrchir ar gyfer S4C gan gwmni Siriol o Gaerdydd, yn cystadlu am wobr yr Animeiddio Meithrin Gorau yn erbyn The Koala Brothers, Yoko! Jakamoko! Toto! a Peppa Pig.

Yn y categori Meithrin Byw bydd Bws Parti, cynhyrchiad Teledu Apollo, sy'n mynd â phartion gwych at blant ledled Cymru, yn cystadlu yn erbyn Balamory, PJ’s Storytime a'r Fimbles.

Llongyfarchiadau i dimau cynhyrchu'r ddwy raglen - Robin Lyons a'r tîm yn Siriol, a Helen Davies yn Apollo a'i thîm hithau. Ddydd Llun, 1af o Dachwedd bydd Helen yn cychwyn gweithio yn S4C fel cynhyrchydd Planed Plant.

Daw'r enwebiadau wrth i S4C baratoi i ail-lansio ei gwasanaeth plant ym mis Mawrth 2005, fel rhan o Strategaeth Rhaglenni newydd y Sianel. Bydd gwasanaeth estynedig o deirawr o ddarlledu di-dor - o 4.00 y pnawn hyd 7.00 yr hwyr - yn cael ei gyflwyno ar S4C digidol o ddydd Llun hyd ddydd Gwener drwy gydol y flwyddyn.

Meddai Siwan Jobbins, Comisiynydd Rhaglenni Plant S4C, “Ry'n ni wrth ein boddau gyda'r enwebiadau hyn sy'n gosod rhaglenni Cymraeg ysgwydd yn ysgwydd â goreuon y DG. Mae'n gaffaeliad gwych i bawb sy' ynghlwm â chynhyrchu'r sioeau poblogaidd hyn ac, wrth i ni baratoi i ail-lansio'r ddarpariaeth i blant y flwyddyn nesa, mae'n hwb amserol."

S4C Rhyngwladol a Hit Entertainment yw cyd-berchnogion Sam Tân, a ddarlledwyd gyntaf ym 1986 ac a werthwyd ers hynny i dros 40 o wledydd ym mhob cwr o'r byd. Cyflwynir Bws Parti gan Lowri Williams a Meilyr Siôn. Mae'r tair rhaglen arall yng nghategori'r Animeiddio Meithrin gorau hefyd yn cael eu darlledu yn Gymraeg ar S4C fel Y Brodyr Coala, Yoko! Jakamoko! Toto! a Peppa.

Mae Gwobrau Plant BAFTA eleni wedi denu llu o gystadleuwyr ac mae'r enwebiadau wedi eu rhannu rhwng prif ddarlledwyr y DG gan gynnwys CBBC, Nickelodeon, the Disney Channel a Five.

Cyhoeddir enwau'r enillwyr mewn seremoni fawreddog yn Llundain ar 28 Tachwedd.

Gellir gweld Sam Tân a Bws Parti ar hyn o bryd ar Blaned Plant Bach ar S4C.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales