Neidio at y cynnwys

S4C

GERAINT GRIFFITH - COLLED FAWR

08-Tach-2004

Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a chyfeillion Geraint Griffith, a fu farw ar 4 Tachwedd mewn damwain ffordd ar Ynys Môn.

Roedd Geraint yn aelod o dîm cyflwyno Clwb Garddio ers pedair blynedd ac roedd yn arbenigo mewn cynlluniau plannu. Roedd ei wybodaeth a'i frwdfrydedd yn disgleirio ym mhob rhaglen. Roedd Geraint hefyd yn gweithio yng nghanolfan arddio Holland Arms, Gaerwen, ac yn gyfrannwr wythnosol i raglen Jonsi ar BBC Radio Cymru. Mae'n gadael gwraig a dau o feibion ifanc. Bydd yna golled fawr ar ei ôl.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales