Neidio at y cynnwys

S4C

’04 LLWYDDIANNUS i S4C RHYNGWLADOL

06-Ion-2005

Mae dechrau blwyddyn bob amser yn gyfle i edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu, ac edrych ymlaen at y flwyddyn newydd. I S4C Rhyngwladol roedd nifer o uchafbwyntiau yn 2004, a dyma rannu rhai ohonyn nhw gyda chi.

Gwerthwyd rhaglenni gan S4C Rhyngwladol i dros 80 o wledydd o gwmpas y byd. Bu S4C yn ymwneud â chyd-gynyrchiadau gyda darlledwyr yn yr Unol Daleithiau, Canada, Ffrainc, Yr Almaen, Prydain, Iwerddon ac Awstralia. Cododd hyn incwm ychwanegol i gyllideb rhaglenni S4C yn ogystal â bod yn brawf pendant fod rhaglenni a gynhyrchwyd yng Nghymru yn medru cystadlu gyda'r goreuon yn y farchnad ryngwladol o ran safon.
Sam Tân
Cwblhawyd cyfres newydd o Sam Tân - cyd-gynhyrchiad gyda Hit Entertainment. Cynhyrchwyd y gyfres yng Nghaerdydd gan Siriol ac fe'i henwebwyd am wobr BAFTA Prydain yn dilyn darllediad ar S4C. Bydd y BBC yn darlledu eu fersiwn nhw o'r gyfres yn ystod 2005.

Holly
Rydym yn y broses o sicrhau cyd-arian ar gyfer cyfres animeiddio newydd o’r enw Holly's Helpline, hefyd gyda Siriol. Yn ogystal ag S4C, bydd y gyfres i'w darlledu trwy Brydain ar Five, ar ZDF yn yr Almaen ac yn Ffrainc ar FR5. Bwriedir dechrau cynhyrchu yn gynnar yn 2005 ar gyfer lawnsio'r gyfres yn 2006.

Cyhoeddwyd llyfr gan Wiley Inc yn seiliedig ar y gyfres Aur. Cynhyrchwyd y gyfres gan Tinopolis ar gyfer S4C, France 5 a RTE.
Y Briodas Fawr
Gwerthwyd fformat cariad@iaith (Fflic) i TG4 yn yr Iwerddon. Cafwyd ymateb da iawn hefyd i fformat Y Briodas Fawr (Solo) pan y'i dangoswyd ym marchnad MIPCOM. Mae trafodaethau eisoes ar y gweill gyda nifer o ddarlledwyr tramor mewn perthynas â thrwyddedu'r fformat.


Eugene Onegin
Gwerthwyd cynhyrchiad Teledu Opus o’r opera Eugene Onegin gan Opera Cenedlaethol Cymru i BBC4.

Wrth edrych ymlaen, mae nifer o brosiectau cyffrous mewn cynhyrchiad yn 2005. Mae Cwmni Da yn tynnu tua therfyn eu dogfen nodwedd Karluk – cyd-gynhyrchiad gyda History Television yng Nghanada. Maen nhw hefyd yn cyd-gynhyrchu cyfres 6 x 30m dan y teitl Llygad y Bwystfil gyda chwmni Midas o Ddulyn ar gyfer S4C, S4C Rhyngwladol a TG4. Cyn bo hir bydd Boomerang yn cychwyn cynhyrchu Shot at Dawn – cyd-gynhyrchiad arall â Chanada. Bydd Wild Dream Films yn cyfleu ail gyfres o Yn ôl i’r Dyfodol yn ystod yr Haf. Mae’r gyfres 3 x 60m hon yn gyd-gynhyrchiad gydag Arts & Entertainments Networks o’r Unol Daleithiau. Gwerthwyd y gyfres gyntaf i fwy na 30 o wledydd. Mae Al Fresco yn gweithio gyda’r cynhyrchydd Awstralaidd Gargoyle ac ABC Australia ar Y Gwir am Galipoli – dogfen i gofnodi 90 mlynedd ers y frwydr Rhyfel Byd Cyntaf hon ym 1915. Mae Tile Films mewn cynhyrchiad ar Duwiau Coll – dilyniant i’r tra llwyddiannus Nefoedd ar y Ddaear (cyd-gynhyrchiad gyda TG4, Swiss TV, SBS Australia, YLE, Vision TV ac Ellis Entertainment). Cyn bo hir bydd y cynhyrchu’n cychwyn ar y gyfres garreg filltir ar Tsieina gyda New York Times Television, Discovery Times, ZDF ac FR5.

Bydd yr holl raglenni hyn, ac eraill, yn cael eu marchnata gan S4C Rhyngwladol gan fanteisio ar y rhwydwaith o gleientau rhyngwladol a adeiladwyd gan y tîm dros ddwy flynedd ar hugain.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales