ARIAN DATBLYGU GWERTH £1 MILIWN
02-Chwe-2005
Mae S4C wedi cyflwyno cynllun datblygu dwy flynedd pellgyrhaeddol gwerth £1 miliwn a fydd yn ail ddiffinio’r berthynas rhwng y Sianel a’r sector cynhyrchu annibynnol.
Wrth wraidd y cynllun, sy’n cynnig y swm datblygu mwyaf erioed i gwmnïau annibynnol, mae proses o dendro agored sy’n rhoi cyfle i gwmnïau gystadlu am arian i ddatblygu ystod o brosiectau yn amrywio o ddrama a fformat rhaglenni i gynlluniau rhyngweithiol newydd.
Dyfernir yr arian datblygu i nifer gyfyngedig o gwmnïau cynhyrchu, gan gymryd lle’r sustem bresennol o ddosrannu arian fesul prosiect.
Eglura Iona Jones, Cyfarwyddwr Rhaglenni S4C, "Mae hyn yn newid arwyddocaol yn y ffordd yr ydym yn gweithredu ein busnes. Mae’r ffordd newydd yma o ymdrin â datblygu rhaglenni yn atgyfnerthu ymrwymiad S4C i ragoriaeth greadigol ac yn annog twf economaidd.”
Mae’r cynllun, a gymeradwywyd gan Awdurdod S4C, yn adlewyrchu’r newidiadau a gyflwynwyd gan y telerau masnach newydd, a fydd yn caniatáu i gwmnïau cynhyrchu gadw hawliau rhaglenni. Fe fydd yn rhoi mwy o reolaeth greadigol ac ariannol i gwmnïau ac yn eu galluogi i geisio am arian o ffynonellau eraill.
Ychwanega Iona Jones, “Mae cynllun datblygu cynaladwy - sy’n rhoi’r pwyslais yn bennaf oll ar dalent – wrth galon strategaeth rhaglenni uchelgeisiol S4C ac yn hanfodol er mwyn gwireddu’r strategaeth honno. Y cynllun datblygu hwn yw’r cam mawr cyntaf tuag at gyrraedd y nod yma.
“Mae’r cynllun yn brawf pellach o’n hymrwymiad i ddatblygiad y sector cynhyrchu annibynnol wrth I gwmnïau fynd ati i fanteisio ar y telerau masnach newydd. Fe fydd yn annog gwell modelau busnes ac yn rhoi cyfle i gwmnïau ddatblygu a chadw talent. Yn y pen draw, rwy’n credu y bydd yn arwain at fwy o greadigrwydd a menter ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut y bydd cwmnïau yn ymateb i’r cyfle newydd yma.”
Nodiadau:
Cyhoeddir y gwahoddiad i dendro ar wefan cynhyrchwyr S4C, www.s4c.co.uk/cynhyrchwyr, ar ddydd Mercher, 16 Chwefror.
Bydd arian datblygu penodol ar gyfer cyd-gynyrchiadau ac animeiddio yn aros ar wahân i’r cynllun hwn.
Delir hawliau prosiectau datblygu ar y cyd gan S4C a chwmnïau annibynnol. Fodd bynnag, os bydd S4C yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r prosiect, bydd gan gwmnïau yr hawl i gynnig y syniadau i ddarlledwyr eraill.
Bydd lleiafswm o £1m o arian datblygu ar gyfer tendro ym 2005-2006, sef y rhan gyntaf yn unig o strategaeth hirdymor.
