Neidio at y cynnwys

S4C

CYHOEDDI MAI ASIA/AFFRICA FYDD APÊL 2005 S4C

01-Chwe-2005

Wrth i lu o wynebau adnabyddus byd canu Cymraeg ddod at ei gilydd y penwythnos diwethaf, cyhoeddwyd mai Apêl Asia/Affrica fydd Elusen S4C ar gyfer 2005.

Daeth dros 50 o gantorion a cherddorion i Ganolfan Mileniwm Cymru, i recordio fersiwn newydd o’r clasur Dewch at Eich Gilydd ar gyfer CD elusennol er budd Cymorth Tsunami Cymru ac Oxfam Cymru. Bydd yr arian i Oxfam Cymru yn cefnogi gwaith yr elusen yn Affrica, fel rhan o’r ymgyrch Rhoi Diwedd ar Dlodi.

Roedd Caryl Parry Jones, Heather Jones, Shân Cothi a Huw Chiswell ynghyd â rhai o fandiau ifanc gorau Cymru megis Maharishi, Gogz, Mattoidz a Pep le Pew ymhlith yr artistiaid ddaeth i recordio’r gân, a ryddhawyd gyntaf oll gan Edward H Dafis yn 1980.

Roedd y delynores Catrin Finch, cyn ddrymiwr y band Catatonia, Aled Richards, Rheinallt ap Gwynedd a cherddorion eraill yn canu’u hofferynnau, tra bod criw o blant ifanc o ardal Bro Morgannwg a chystadleuwyr sioe dalent S4C WawFfactor hefyd yn cymryd rhan.

Yn ogystal â Dewch at Eich Gilydd, cafodd fersiwn o gân Geraint Jarman, Gerddi Babylon, a gyfansoddwyd yn deyrnged i’r artist reggae Bob Marley, a fyddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed eleni, hefyd ei chynnwys ar y CD elusennol.

Rhyddheir y CD ar label Sain, a fydd yn dosbarthu’r CD i siopau ledled Cymru ar gyfer Dydd Gw^yl Dewi. Bydd pob elw yn mynd tuag at yr apêl.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales